Gall canlyniadau ac effeithiau bwlio ddod i’r amlwg yn y disgybl mewn sawl ffordd. Gall nifer o arwyddion sy’n awgrymu bwlio fod yn ganlyniad hefyd i broblemau eraill ym mywyd y plentyn hwnnw. Gall salwch sydyn yn y teulu, ysgariad rhieni, gwrthdaro rhwng rhieni a brodyr a chwiorydd neu ddiweithdra, wneud bywyd y teulu cyfan yn anodd a gall hynny dod i’r amlwg mewn plant a phobl ifanc fel ymddygiad symptomatig. Felly nid arwyddion bwlio yn unig yw’r arwyddion a ddisgrifir isod. Mae’n werth cofio hefyd fod pob rhiant yn adnabod y ffordd y mae eu plentyn yn mynegi trallod ac yn dangos nad yw popeth yn iawn. Y cliw gorau yn aml yw ymddygiad y plentyn. Er enghraifft, os yw disgybl a arferai fod yn hapus yn yr ysgol yn colli diddordeb yn yr ysgol ac yn ei osgoi, mae hynna’n ddigon o reswm i dalu sylw i’r sefyllfa ac ystyried pam y daeth y newid sydyn hwn drosto. Trafod y mater yw’r ffordd fwyaf clir ac uniongyrchol. Dylech gofio fodd bynnag na fydd plentyn neu berson ifanc yn barod, o reidrwydd, i siarad am y sefyllfa hyd yn oed gyda’i rieni. Mae’n bwysig sefydlu rheolau craidd ar gyfer sgyrsiau sy’n golygu siarad mewn ffordd barchus a chyfleu cefnogaeth. Gall fod angen hefyd cysylltu â’r athro dosbarth neu dîm KiVa’r ysgol.
|
Yn wahanol i sut yr oedd cynt, mae’r disgybl...
|
|
Mae pob rhiant yn adnabod eu plentyn a’r ffordd y maent yn mynegi trallod. Yn aml yr arwydd allweddol yw newid o’i gymharu ag ymddygiad y plentyn yn y gorffennol, e.e. plentyn a arferai hoffi’r ysgol ddim eisiau mynd erbyn hyn. Os nad oes rheswm amlwg dros y newid, mae’n werth trafod gyda’r plentyn a staff yr ysgol y posibilrwydd fod y plentyn yn cael ei fwlio. |