Map o'r safle

Canllaw i rieni
Gwybodaeth i rieni
Beth yw Rhaglen Gwrth-fwlio KiVa Canllaw cryno i rieni
Gwybodaeth sylfaenol am fwlio
Beth yw bwlio? Mathau o fwlio Mae bwlio’n fater i’r dosbarth cyfan Beth sy’n achosi bwlio? Sut ydw i’n adnabod plentyn sy’n cael ei fwlio?
Camau gwrth-fwlio yn yr ysgol a’r cartref
Camau yn yr ysgol Camau yn y cartref
Cyfeiriadau llenydduaeth ac ar y we
Cyfeiriadau ar y we Llenyddiaeth Gwybodaeth a Ffuglen

Camau yn y cartref

Camau yn y cartref

Mae cwestiynau’n bwysig

Mae “Sut oedd yr ysgol heddiw?” neu “Sut oedd pethau yn yr ysgol?” yn gwestiynau dyddiol pwysig y gall rhieni ofyn i’w plant. Maent yn rhoi gwybodaeth am ddiwrnod y plentyn yn yr ysgol, ei deimladau, ei hwyl a’i berthynas â’i ffrindiau. Mae cwestiynau’n dangos fod gan rieni ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgol. Gallant hefyd fod yn agoriad i drafod problemau posibl gyda ffrindiau.

Y tro nesaf rydych yn holi am y diwrnod ysgol, peidiwch bodloni ag ateb byr fel “Iawn” neu “OK”. Cymerwch fwy o amser fel eich bod yn gallu trafod y pwnc am gyn hired ag sydd ei angen. Yn ogystal â geiriau, mae'n bwysig “gwrando” ar deimladau, goslef y llais, a thalu sylw i fynegiant wyneb ac ystumiau. Nid croesholi yw’r pwrpas, ond cael sgwrs lle mae’r ddwy ochr yn cyfnewid straeon am ddigwyddiadau’r diwrnod. Mae’n beth da gofyn cwestiynau na ellir mo’u hateb gydag ie neu na yn unig.

 

Mae cwestiynau’n bwysig

Gall y cwestiynau canlynol eich arwain at y pwnc:

 

  • Beth oedd y peth gorau a’r peth gwaethaf a ddigwyddodd yn yr ysgol heddiw?
  • Gyda phwy oeddet ti yn yr ysgol heddiw? 
    • Sut rai ydyn nhw?

 

  • Beth wnest ti gyda dy ffrindie heddiw?
    • Gawsoch chi hwyl?
  • Beth wnest ti ar y ffordd i’r ysgol/gartref?

 

 

Cefnogi plentyn sy’n cael ei fwlio

Gall gwybod neu amau fod eich plentyn yn cael ei fwlio yn yr ysgol achosi sawl math o emosiwn. Mae teimladau fel dicter, ofn, gwarth ac euogrwydd, yn naturiol a hyd yn oed i’w disgwyl mewn sefyllfa o’r fath. Hyd yn oed os yw emosiynau’n eich llethu, ceisiwch osgoi gor-ymateb oherwydd gall gwneud hynny arwain eich plentyn, yr un ddioddefodd y bwlio, i feddwl mai ef/hi achosodd drallod ei rieni. Perygl arall yw dim ymateb digon, a allai wneud i’ch plentyn deimlo’ch bod yn bychanu’r sefyllfa. Ni ddylid osgoi materion anodd drwy or neu dan-ymateb, ond gallwch ddysgu sut i ddelio â nhw. Nod mynd i’r afael â’r mater yw cefnogi’r plentyn, cynyddu ei hunan-barch, a sicrhau fod y bwlio’n dod i ben.

 

Cefnogi plentyn sy’n cael ei fwlio

 

Beth i wneud?

 

  • Os ydych yn gwybod neu’n amau fod eich plentyn yn cael ei fwlio, trafodwch hyn gydag ef/hi. Efallai na fydd eisiau dweud wrthych chi, felly byddwch yn barod iddo ef/iddi hi ei wadu i ddechrau. 
  • Anogwch eich plentyn i siarad amdano a sicrhewch ef/hi eich bod chi eisiau ei helpu waeth pa mor anodd yw’r sefyllfa. Gadewch i’ch plentyn wybod eich bod chi ar ei (h)ochr 100%.
  • Dywedwch yn glir ac yn aml nad eu bai eich plentyn yw ei fod yn cael ei fwlio. Nid oes dim byd o’i le arno ef/arni hi sy’n cyfiawnhau bwlio.
  • Peidiwch ag addo cadw’r peth yn gyfrinach oherwydd wedyn mae’n amhosibl ymyrryd! Ond dylech addo na fyddwch yn gwneud unrhyw beth heb ei drafod gyda’ch plentyn yn gyntaf. Drwy hyn byddwch yn cynnal ymddiriedaeth a sgwrs agored.
  • Gyda’ch gilydd meddyliwch sut mae goroesi sefyllfaoedd unigol o fwlio. Gweithredoedd syml sydd orau. Mae bwlis eisiau i’r dioddefwr ymateb mewn rhyw ffordd; drwy grio, mynd yn ddryslyd, bod ag ofn, ffrwydro ayb. Os oes modd, gallai’r dioddefwr geisio ymddangos yn ddifater, dweud NA wrth fwlio a/neu adael y sefyllfa. Mae’n anodd i’r bwli barhau pan nad yw’r dioddefwr yn ymateb neu pan mae’n cerdded i ffwrdd. Gellir ymarfer y pendantrwydd sydd ei angen mewn sefyllfaoedd bwlio hefyd; sut mae dweud NA, STOPIA neu PAID Â BWLIO mewn ffordd sy’n argyhoeddi. 
  • Gyda’ch gilydd meddyliwch sut mae osgoi sefyllfaoedd lle mae’n debygol y gallai’ch plentyn gael ei fwlio’n hawdd. Er enghraifft ni ddylai’ch plentyn fod yr olaf i adael y dosbarth neu’r lle cinio, ni ddylai fynd ag arian neu bethau gwerthfawr i’r ysgol, ac ni ddylai sefyll ar wahân i’r disgyblion eraill neu’r monitoriaid amser egwyl. Mae’n beth da bod yn agos at bobl eraill hyd yn oed os nad ydych yn eu hadnabod. Rydych yn fwy diogel mewn grŵp.
  • Meddyliwch sut mae cynyddu hunan-hyder y dioddefwr. Gallech wneud poster teimlo’n dda i’ch plentyn, er enghraifft. Chwiliwch am lun lle mae’ch plentyn yn hapus a bodlon. Gludwch hwn ar ddarn o bapur. O amgylch y llun ysgrifennwch sylwadau cefnogol, da a chalonogol y mae pobl eraill wedi eu gwneud amdano/amdani. Hefyd ysgrifennwch sylwadau am ei gryfderau a’r sefyllfaoedd y mae’n rhagori ynddynt. Wedi gorffen y poster gosodwch ef yn rhywle hawdd ei weld.
  • O ganlyniad i fwlio, gall y dioddefwyr fynd yn swil a thawel. Mae’r gwersi KiVa yn cynnwys trafodaethau am sut mae gwneud ffrindiau, ac ymarferion ar y sgiliau sydd eu hangen i ffurfio perthnasau. Gallwch ofyn i’r athro am bynciau’r wers a gallwch hefyd eu trafod gartref. Meddyliwch am y gwahanol ffyrdd rydych chi yn gwneud ffrindiau a chynnal cyfeillgarwch.
  • Gallwch annog y plentyn i wahodd ffrindiau adref, dim ond un ar y tro i ddechrau, fel y gallant ymarfer sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd cyfarwydd a diogel.
  • Gallwch annog eich plentyn i gymryd rhan mewn diddordebau newydd lle y gall gyfarfod a gwneud ffrindiau newydd.
  • Mae’n werth cysylltu â thîm KiVa’r ysgol. Mae aelodau’r tîm wedi cael eu hyfforddi i daclo achosion o fwlio. Dywedwch wrth aelodau’r tîm beth sydd wedi digwydd, a beth a wnaethoch gartref i gefnogi’r dioddefwr.
NA

Ymarfer ymdopi â sefyllfaoedd o fwlio gyda’ch gilydd

Gallwch ymarfer ymdopi â sefyllfaoedd o fwlio, adref. Nid cyfrifoldeb y disgybl/dioddefwr yw dod â’r bwlio i ben; mae’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau’r oedolion bob amser, ac, yn yr ysgol, yr athrawon. Gall y geiriau NA neu STOPIA fod yn gam cyntaf yn y sefyllfa. Gallent roi taw ar yr ymddygiad tramgwyddus sy’n cael ei gyfeirio atoch yn y sefyllfa arbennig honno.

Mae’n bwysig gofyn i’ch plentyn: 

Wyt ti’n gallu dweud NA neu STOPIA HYNNA yn bendant wrth y bwli?

Mewn llawer o sefyllfaoedd bwlio gallwch ddweud NA wrth y bwli. Gallwch ei ymarfer gyda’ch rhieni gyntaf. Gartref, chwiliwch am le tawel lle y cewch breifatrwydd a neb yn tarfu arnoch. Darllenwch yn uchel y syniadau sydd yn yr adran RWY’N GWYBOD isod. Trafodwch nhw. Yna symudwch i’r adran RWY’N GALLU lle’r ydych yn ymarfer defnyddio’r gair NA. Gorffennwch gyda’r adran RWY’N GWNEUD lle’r ydych yn defnyddio’r gair mewn sefyllfa go iawn. Gyda’ch gilydd gallwch feddwl am sefyllfaoedd lle y medrwch ac y dylech ddefnyddio’r gair NA.

Rwy’n gwybod. Mae NA yn air byr ond pwerus iawn. Mae’n cyfleu i eraill nad ydych yn hoffi beth sy’n cael ei wneud i chi. Os ydych yn teimlo o dan fygythiad neu fod rhywun yn eich trin yn wael gallwch ddefnyddio’r gair hwn. Os yw hi’n teimlo’n anodd dweud NA, gallwch ymarfer ei ddweud.

Rwy’n gallu. Gydag ymarfer gallwch ddod yn dda iawn am ddweud NA. Gallwch ddechrau ymarfer er enghraifft drwy sefyll o flaen y drych. Edrychwch ar eich adlewyrchiad yn y drych. Sefwch yn syth gyda’ch pen yn uchel. Cymerwch anadl ddofn a dywedwch yn eglur ac yn gadarn NA. Dywedwch ef yn uwch eto mewn tôn uwch a dyfnach. NA.

Gallwch ymarfer hyn gydag aelod o’r teulu hefyd. Edrych arno ef/arni hi yn eu llygaid a dywedwch NA mewn llais cadarn a chlir. Nid oes raid i chi fod yn flin neu ypsetio, dim ond yn gadarn ac yn benderfynol wrth ddweud NA.

Rwy’n gwneud. Ar ôl ymarfer, dechreuwch ddefnyddio’r gair mewn sefyllfaoedd go iawn. Cofiwch pa mor dda roeddech yn dweud NA wrth ymarfer a dywedwch ef nawr mewn sefyllfaoedd go iawn pan fyddwch yn cael eich bwlio neu eich trin yn amharchus. Mae gadael y sefyllfa yn chwyddo effaith y gair. Nid oes pwynt aros a dadlau. Os yw’r sefyllfaoedd hyn yn parhau i ddigwydd gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich athro neu oedolyn arall amdanynt.

 

Wyt ti’n gallu dweud NA neu STOPIA HYNNA yn bendant wrth y bwli?

Sut gall y rhai sy’n gwylio helpu’r dioddefwr?

Yn ogystal â’r bwli a’i gynorthwywyr, mae yna gynulleidfa yn bresennol yn aml mewn sefyllfaoedd bwlio. Nid ydynt yn gyfrifol am y bwlio, ond gallant wneud llawer i’w leihau a’i atal.

  • Anogwch eich plentyn i gymryd safiad a rhoi diwedd i’r bwlio. Gellir stopio bwlio’n gyflymach os yw rhywun o’r tu allan yn ymyrryd.
  • Gofynnwch i’ch plentyn sut mae gwylio bwlio o’r tu allan yn teimlo? Pa deimladau sy’n codi? Trafodwch y teimladau hyn.
  • Awgrymwch fod eich plentyn yn siarad am fwlio gyda’i ffrindiau. Beth allan nhw ei wneud gyda’i gilydd i roi diwedd ar y bwlio? Gall grŵp o bobl sy’n ystyried bwlio yn rhywbeth negyddol gael dylanwad cryf ar stopio bwlio. Bydd y bwlio’n stopio pan na fydd cynulleidfa yno i’w wylio!
  • Gallwch chi hefyd drafod gwahanol fathau o fwlio. Nid dim ond taro a galw enwau yw bwlio; gall hefyd fod yn anuniongyrchol neu’n seiberfwlio. Nid yw’r un o’r rhain yn dderbyniol!
  • Pwyswch ar eich plentyn i ddweud wrth oedolyn am fwlio. Nid hel straeon neu gario clecs am rywun yw hyn. Mae dweud wrth oedolion yn ffordd dderbyniol ac effeithiol o helpu’r dioddefwr mewn angen. Dim ond gwneud i’r dioddefwr ddioddef yn hirach y mae bod yn ddistaw.
  • Dywedwch wrth eich plentyn am y tîm KiVa (tîm gwrth-fwlio’r ysgol) sy’n gyfrifol am fynd i’r afael ag achosion o fwlio. Cysylltwch ag aelodau’r tîm i sôn wrthynt am y bwlio.

 

 

Os yw’ch plentyn yn cael ei fwlio ar ei ffôn neu ar-lein

Beth allwch chi ei wneud am negeseuon sarhaus?

  • Dywedwch wrth eich plentyn nad oes raid iddo agor negeseuon a anfonwyd gan fwlis neu gan ddieithriad llwyr.
  • Anogwch eich plentyn i ateb negeseuon bwlio un waith, fel arfer nid oes pwynt ymateb fwy na hynny, ac i gadw’u hymateb yn fyr ac i’r pwynt, gan ddweud yn glir eu bod am i’r bwlio stopio.
  • Os yw’r sawl sy’n anfon y neges yn mynd i’r un ysgol â’ch plentyn, cysylltwch â staff yr ysgol.
  • Os yw’r bwlio’n parhau, mae’n werth ystyried newid cyfeiriad e-bost neu rif ffôn y plentyn.
  • Os oes angen, gellir hefyd arbed neu gofnodi’r negeseuon bwlio rhag ofn y bydd angen cymryd camau pellach i fynd i’r afael â’r bwlio.
  • Gallwch chi hefyd osod eich rhaglen e-bost i hidlo negeseuon gan bobl arbennig i ffolder arbennig fel na fydd yn rhaid i’ch plentyn eu darllen.
Os yw’ch plentyn yn cael ei fwlio ar ei ffôn neu ar-lein

Os oes testunau neu luniau sarhaus yn cael eu postio am eich plentyn

Os oes testunau neu luniau sarhaus yn cael eu postio am eich plentyn
  • Cysylltwch â gweinyddwr y wefan. Gallant gael gwared ar y testun ac o bosibl darganfod pwy sy’n gyfrifol amdano.
  • Arbedwch bob un o’r tudalennau lle mae’r bwlio’n digwydd rhag ofn y bydd angen cymryd camau pellach.
  • Os yw’r bwlio’n arbennig o ddifrifol, cysylltwch â’r heddlu.

Dyletswydd bwysicaf rhiant

yw caru ei blentyn yn ddiamod a rhoi anogaeth iddo.
Y brif neges i’w chyfleu i’r dioddefwr yw:
1) nid dy fai di yw’r bwlio;
2) paid â phoeni, mae’n iawn i deimlo’n wael, awn ni trwy hyn gyda’n gilydd; a
3) fe gei di help a chefnogaeth a bydd y bwlio’n stopio. 

Mewn nifer o sefyllfaoedd bwlio y cam cyntaf fydd dweud y gair NA yn gryf. Os oes angen, gellir ymarfer ei ddefnyddio gyda’r rhieni cyn ei ddefnyddio mewn sefyllfa fwlio go iawn. Os yw’ch plentyn wedi cael ei fwlio ar-lein neu ar ei ffôn symudol, dywedwch wrtho sut i ddelio â negeseuon sarhaus ac amhriodol. Mae’n werth cysylltu â’r tîm KiVa i drafod yr hyn sydd wedi digwydd. Gall aelodau’r tîm drafod beth a wnaed, neu beth fydd yn cael ei wneud yn yr ysgol er mwyn mynd i’r afael â’r achos a rhoi diwedd ar y bwlio. Os yw’r bwlio yn arbennig o ddifrifol, mae’n werth ystyried cysylltu â’r heddlu.


Mae fy mhlentyn i’n cymryd rhan mewn bwlio – beth ddylwn i wneud?

Beth ddylwn i wneud os caf wybod bod fy mhlentyn yn cael ei gyhuddo neu ei amau o fwlio plant eraill? Gall gwybodaeth fel hyn ddod fel sioc, ac mae’n bosibl mai’ch ymateb cyntaf fydd dicter, amheuaeth ac euogrwydd. Mae teimladau o’r fath yn gyfiawn ac yn ddealladwy, ond gwell ceisio aros a meddwl cyn taclo’r mater.

Nid ydym eisiau meddwl y gallai’n plant ni gymryd rhan mewn bwlio. Rydym fel arfer yn meddwl am fwlis fel disgyblion ymosodol a chythryblus mewn rhyw ffordd. Y gwir yw bod y rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n bwlio yn blant a phobl ifanc cyffredin sy’n dod o gartrefi a theuluoedd cyffredin.

Beth i wneud?

  • Canfyddwch yn union beth ddigwyddodd. Ai yw’n fwlio mewn gwirionedd neu’n anghytundeb rhwng disgyblion? Mae’n bosibl y bydd angen setlo anghytundebau neu ddadleuon hefyd. Pan fyddwch yn holi’ch plentyn am y sefyllfa, peidiwch â beirniadu, cyhuddo na barnu.
  • Canfyddwch allan pam a sut mae’ch plentyn yn cymryd rhan mewn bwlio. Beth yw ei rôl ef/hi mewn sefyllfaoedd bwlio? Ai ef/hi yw’r prif droseddwr, cynorthwyydd, neu gefnogwr? Cofiwch y gall plant wadu’n aml eu bod wedi cymryd rhan yn yr hyn a ddigwyddodd neu wneud yn fach o’u rhan nhw ynddo.
  • Peidiwch â derbyn esboniadau fel: “Dim ond chware oedden ni, doedden ni ddim o ddifri.” Gwnewch yn glir nad ydych yn cymeradwyo bwlio a helpwch eich plentyn i ddeall y gwahaniaeth rhwng chwarae a bwlio.
  • Siaradwch am ba mor frawychus ac annheg yw bwlio i’r dioddefwr. Pwysleisiwch nad oes dim byd yn cyfiawnhau bwlio.
  • Eglurwch fod yn rhaid i’r bwlio stopio oherwydd gall y sefyllfa fynd hyd yn oed yn waeth i’r sawl sy’n dioddef a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y bwlio.
  • Condemniwch y bwlio, nid eich plentyn. Gwnewch hi’n amlwg nad ydych yn cefnogi bwlio, ond eich bod yn cefnogi’ch plentyn. Sicrhewch ef/hi eich bod yn barod i’w helpu a’u cefnogi i roi diwedd ar y bwlio.
  • Ystyriwch a yw’ch plentyn angen mwy o oruchwyliaeth ac arweiniad oedolyn. Gosodwch reolau clir ar gyfer diddordebau ac aros allan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae’ch plentyn a gyda phwy bob amser.
  • Dysgwch eich plentyn i barchu eraill a derbyn gwahaniaethau pobl. Mae gwahaniaeth yn rhywbeth cyfoethog ac nid yw’n fygythiad nac yn rheswm dros wawdio.
  • Dywedwch wrth eich plentyn eich bod yn gwybod y gall newid ei ymddygiad. Dywedwch eich bod yn siŵr nad yw eisiau niweidio eraill mewn gwirionedd neu frifo’u teimladau. Rhowch hyder ynddo y bydd yn gallu newid ei ymddygiad.
  • Mae newid yn bosibl, er enghraifft drwy ddatblygu sgiliau cymdeithasol, bod gyda ffrindiau sy’n gweld bwlio fel rhywbeth drwg, a chael diddordebau newydd. Gyda’ch gilydd meddyliwch am ba gamau y gall eich plentyn eu cymryd i ddod ymlaen gyda ffrindiau a chael sylw positif mewn grŵp.
  • Canmolwch eich plentyn am beidio â chymryd rhan mewn bwlio ac am gymryd camau bychain tuag at roi stop ar fwlio.
  • Gwnewch hi’n amlwg, os yw’r bwlio’n parhau, y bydd yn arwain at ganlyniadau negyddol yn yr ysgol a’r cartref.
  • Os oes rhaid i chi gosbi, defnyddiwch ddulliau teg. Ni ddylid defnyddio dulliau corfforol o gosbi. Gall cosbau o’r fath gynyddu ymddygiad ymosodol. Eto, y peth pwysig yw dweud wrth eich plentyn eich bod yn ei dderbyn a’i garu, ond nad ydych yn derbyn y ffaith ei fod yn bwlio plant eraill.
  • Mae aelodau’r tîm KiVa wedi cael eu hyfforddi i fynd i’r afael ag achosion o fwlio. Ymddiriedwch ynddyn nhw! Os hoffech, mynnwch air gyda nhw am yr hyn sy’n cael ei wneud yn yr ysgol i ddod â bwlio i ben.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gynnal eich plentyn sydd wedi bod yn bwlio eraill.

Byddwch yn dawel a phendant wrth drafod y pwnc. Gwnewch hi’n amlwg nad ydych o blaid bwlio. Ceisiwch ennyn cydymdeimlad â’r dioddefwr. Siaradwch am ba mor ofnus yw’r dioddefwr mae’n siŵr, a pha mor wael y mae’n teimlo. Pwysleisiwch nad oes dim byd yn cyfiawnhau bwlio. Gyda’ch gilydd meddyliwch am ddulliau gwahanol y gall eich plentyn eu defnyddio i reoli dicter a delio â siom. Gallech hefyd ystyried beth gall eich plentyn ei wneud i gefnogi’r dioddefwr. Er enghraifft, gallai ddweud helo a gwenu arno. O leiaf, gall gytuno i beidio â chymryd rhan mewn bwlio mewn unrhyw ddull na modd.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gynnal eich plentyn sydd wedi bod yn bwlio eraill.