Map o'r safle

Canllaw i rieni
Gwybodaeth i rieni
Beth yw Rhaglen Gwrth-fwlio KiVa Canllaw cryno i rieni
Gwybodaeth sylfaenol am fwlio
Beth yw bwlio? Mathau o fwlio Mae bwlio’n fater i’r dosbarth cyfan Beth sy’n achosi bwlio?
Sut ydw i’n adnabod plentyn sy’n cael ei fwlio?
Camau gwrth-fwlio yn yr ysgol a’r cartref
Camau yn yr ysgol Camau yn y cartref
Cyfeiriadau llenydduaeth ac ar y we
Cyfeiriadau ar y we Llenyddiaeth Gwybodaeth a Ffuglen

Beth sy’n achosi bwlio?

Beth sy’n achosi bwlio?

Y cwestiwn mwyaf cyffredin am fwlio yw beth sy’n ei achosi. Nid yw’r ateb yn un syml. Ai oherwydd y bwli? Neu’r dioddefwr efallai? Yr athro? Awyrgylch yr ysgol? Cymdeithas? Yr hyn sy’n sicr yw nad yw bwlio byth yn cael ei achosi gan un o’r elfennau yna’n unig. Ond rydym yn gwybod beth yw’r ffactorau sy’n cynyddu risg plentyn i fod yn fwli neu’n ddioddefwr. Dangoswyd hefyd fod bwlio’n fwy tebygol o ddigwydd mewn rhai dosbarthiadau nag mewn rhai eraill. Mae yna wahaniaethau hefyd rhwng ysgolion, gwahaniaethau rhwng gwledydd ayb. Mewn diwylliannau gwahanol gall pethau gwahanol gynyddu’r risg o gael eich bwlio. Er enghraifft, yng ngwledydd y Gorllewin plant swil a thawel sy’n tueddu i gael eu bwlio gan amlaf, ond yn Tsieina mae gan blant o’r fath statws uchel yn eu cylch ffrindiau. Felly, mae’r hyn sy’n cael ei werthfawrogi ym mhob diwylliant hefyd yn effeithio ar y ffenomen fwlio.

 

BETH SY’N ACHOSI BWLIO?

Pwy sy’n bwlio – a phwy maen nhw’n bwlio?

Dengys ymchwil fod yna rai nodweddion a all roi plant mewn perygl o fod yn fwli. Mae’n bosibl fod gan rai o’r plant hyn broblemau mawr mewn gwahanol agweddau o’u bywyd, gall fod ganddynt bersonoliaeth ymosodol neu efallai eu bod yn ei chael hi’n anodd teimlo empathi dros eraill. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall fod bwlis yn aml yn blant eithaf cyffredin, neis, sydd, gyda’i gilydd, yn gorffen trwy fod yn gas tuag at aelod o’r grŵp.

Y farn gyfredol yw mai un o’r prif resymau y tu ôl i fwlio yw ymgais y bwli i atgyfnerthu ei statws cymdeithasol ei hun neu i ennill grym yn y grŵp. Mae plant sy’n bwlio plant eraill yn aml â rhyw angen i gael eu gweld a’u clywed, i ennyn edmygedd a chael pŵer yn y grŵp. Felly, targed y bwlio yn aml yw plentyn neu berson ifanc sy’n ansicr, yn swil, sydd eisoes yn meddu ar statws cymdeithasol isel yn y grŵp neu sydd heb fawr o gyfeillion. Drwy ddewis y math hwn o ysglyfaeth, mae’r bwli’n gwneud yn siŵr na fydd y grŵp yn ymladd yn ôl i roi stop ar y bwlio ac fe gaiff fuddugoliaeth hawdd. Felly, mae’r gred gyffredinol fod y bwli yn blentyn problemus sydd â hunan-barch isel ac sy’n arllwys ei deimladau drwg ei hun drwy fwlio, yn anghywir. Mae yna lawer o blant sy’n bwlio eraill am hwyl, i greu argraff neu allan o ddim mwy nag anystyriaeth lwyr.

Ar ryw adeg gall unrhyw un gael ei fwlio. Mae astudiaethau ymchwil wedi canfod nodweddion a phriodweddau arbennig sy’n cynyddu risg y plentyn neu’r person ifanc o gael ei fwlio. Mae’r rhain yn cynnwys nodweddion gweladwy megis nam corfforol, bod dros/o dan bwysau, bod yn lletchwith neu broblemau anian megis swildod, bod yn fewnblyg neu fyrbwyll. Hefyd mae plant sydd ag anawsterau mewn mwy o berygl o gael eu bwlio. Swildod, ansicrwydd a hunan-barch isel yw’r pethau mwyaf cyffredin sy’n darogan erledigaeth yn y dyfodol. Fodd bynnag, dim ond risg uwch yw hyn, nid sicrwydd y bydd y nodweddion hyn ym mhob achos ac ym mhob sefyllfa yn arwain at fwlio.

Er y gall y nodweddion a restrwyd uchod gynyddu’r risg o fwlio, nid yw’n golygu mai bai’r dioddefwyr neu eu rhieni neu hyd yn oed eu cyfrifoldeb yw eu bod yn cael eu bwlio. Nid namau yn y dioddefwr yw gwahaniaethau corfforol, swildod ac ansicrwydd, ond nodweddion a ddylai gael eu derbyn. Hefyd, mae’n bwysig nodi fod canlyniadau’r ymchwil yn seiliedig ar ddata cynhwysfawr gan gannoedd o ddisgyblion. Nid yw’r hyn sy’n wir wrth astudio niferoedd mawr o fyfyrwyr o reidrwydd yn wir am bob sefyllfa unigol o fwlio. Felly, gall plant nad ydynt yn arbennig o swil neu ansicr, neu’n meddu ar hunan-barch isel, gael eu bwlio hefyd.

Er bod llawer o blant a phobl ifanc sy’n cael eu bwlio yn anymosodol, yn mynd i’w cregyn ac yn swil, mae yna dargedau hefyd sy’n ymosodol eu hunain. Gall yr ymddygiad ymosodol yma sy’n hawdd ei danio ac anodd ei reoli gynyddu risg plentyn o gael ei fwlio. Weithiau mae nifer fechan o dargedau yn fwlis hefyd, er enghraifft yn bwlio plant eraill iau a gwannach. Gyda’r bwli-dargedau hyn mae’n aml yn arbennig o anodd stopio’r bwlio. Oherwydd ymddygiad ymosodol ac aflonyddgar y bwli-dargedau eu hunain, gall eu cyfoedion ystyried fod eu bwlio nhw yn ddealladwy a hyd yn oed fod cyfiawnhad iddo.

Pan ofynnir i blant roi rheswm dros fwlio, maent yn dweud yn aml fod y dioddefwr “yn mynd ar eu nerfau”, yn chwithig mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, “yn hen drwyn”, yn siarad gormod ayb. Mae’n bwysig deall serch hynny fod bwlio bob amser yn anghywir, mae’n amharchus, ac nid oes neb yn ei haeddu. Os yw ymddygiad rhywun yn eich gwneud yn wirioneddol flin, dywedwch hynny wrthyn nhw - nid bwlio yw’r ateb.

Yn ychwanegol at nodweddion unigol plant, mae nifer o ffactorau grŵp yn effeithio ar fwlio. Gall fod disgwyl i’r sawl sy’n cymryd rôl y bwli ymddwyn mewn ffordd arbennig. Mewn geiriau eraill, pan fo rhywun yn ymddwyn yn ôl ei rôl, mae ef neu hi yn ymateb i ddisgwyliadau pobl eraill. Er enghraifft, os yw’r bwli’n rhoi “sioe fwlio” i bawb, gall ef neu hi deimlo’n fwy yn rhan o’r grŵp, a’i fod ef neu hi yn ymddwyn yn unol â disgwyliadau’r grŵp. Yn ogystal â disgwyliadau’r rôl, caiff gweithredoedd y bwli eu heffeithio hefyd gan yr arferion dros neu yn erbyn bwlio yn y dosbarth a diwylliant cyffredinol yr ysgol. Mewn rhai dosbarthiadau neu ysgolion, gwelwyd nad yw’r ffactorau unigol penodol a allai gynyddu’r risg o gael eich bwlio yn rhagdybio erledigaeth wedi’r cyfan. Hynny yw, er y gall rhai ffactorau gynyddu risg plentyn o gael ei erlid, nid yw’n gwarantu y bydd ef neu hi’n cael eu bwlio. Mae’r arferion o fewn grŵp – dosbarth neu ysgol – yn bwysig i’w hystyried wrth geisio deall pam y digwyddodd bwlio.

Wrth ystyried yr effaith a gaiff y grŵp ar weithredoedd y bwli, y nod yw nid cymryd i ffwrdd neu leihau cyfrifoldeb yr unigolyn (y bwli/s) am eu gweithredoedd, ond gweld bwlio fel ffenomen sy’n cael ei effeithio gan ffactorau eraill y tu hwnt i nodweddion unigol y bwli. Bydd y materion hyn yn cael sylw llawn yn y gwersi KiVa, ond gellir eu trafod yn y cartref hefyd.

Beth sy’n digwydd i’r dioddefwr, ac i’r bwli?

Mae bwlio yn risg i ddatblygiad a lles y dioddefwr a’r bwli. Mae plant sy’n cael eu bwlio, ymhlith pethau eraill, yn fwy isel eu hysbryd a phryderus na phlant eraill. Gall fod ofn mynd i’r ysgol arnynt ac mae eu hymddiriedaeth ym mhobl yn cael ei niweidio.

Os caiff ei adael, mae bwlio yn risg i’r bwli yn ogystal. Mae’n bosibl y bydd y bwli’n meddwl na fydd ymddygiad tebyg yn y dyfodol yn golygu unrhyw ganlyniadau iddo, a gall ddechrau dod i gredu fod iselhau eraill yn ffordd dda o gael sylw a grym mewn grŵp. Ar ei waethaf gall datblygiad o’r fath arwain at broblemau yn ddiweddarach mewn bywyd megis problemau pellach mewn perthnasau rhyngbersonol, ymddygiad ymosodol cynyddol a all arwain at drais, ayb.

Beth sy’n digwydd i’r dioddefwr, ac i’r bwli?

Os gadewir i blentyn sy’n bwlio eraill barhau â’i ymddygiad:

  • Bydd ei agwedd a’i safbwynt tuag at fwlio a thrais yn mynd hyd yn oed yn fwy pendant. Bydd yn mabwysiadu agwedd hyd yn oed yn fwy amharchus tuag at eraill ac yn ystyried fod brifo pobl eraill yn dderbyniol neu hyd yn oed yn hwyl.
  • Bydd ef/hi yn dysgu defnyddio bwlio fel ffordd o reoli sefyllfaoedd cymdeithasol. Gall bwlio ddwyn ffrwyth; mae ef/hi yn cael sylw, mae’n rhoi ymdeimlad o bŵer, hwb i’r hyder, a hyd yn oed pleser.
  • Ar y llaw arall gall y bwli deimlo’n gaeth hefyd os nad yw’n gallu newid ei ymddygiad. Mae’n dysgu na all neb ei helpu neu ei atal ef/hi.

Yn ôl astudiaethau dilynol nid yw plant a phobl ifanc o reidrwydd yn “tyfu allan” o fwlio. Felly nid yw bwlio yn stopio ar ei ben ei hun, ac mae plant sy’n bwlio’n aml mewn perygl uwch o ddatblygu’n oedolion sy’n tueddu i ymddwyn yn ymosodol a threisgar.

Er bod yna rai pethau cyffredin

(ymosodedd, diffyg empathi) yn nodweddu rhai bwlis, mae plant a phobl ifanc cyffredin yn bwlio hefyd ac yn ymddwyn yn gas tuag at aelod o’r grŵp - weithiau mater o ddiffyg ystyriaeth ydyw. Mae gan blant sy’n bwlio eraill yn aml yr angen i gael eu gweld a’u clywed, i ennyn edmygedd ac ennill grym yn y grŵp. Felly, y targed a ddewisir i’w fwlio yn aml yw plentyn neu berson ifanc sy’n ansicr, yn swil sydd eisoes â statws isel yn y grŵp, neu sydd â nemor ddim ffrindiau. Nid ydych yn bod yn fwli neu’n ddioddefwr yn seiliedig ar briodweddau unigol yn unig. Caiff y rolau hyn eu dylanwadau hefyd gan ddisgwyliadau’r plant eraill ac arferion y dosbarth. Gall y bwli deimlo ei fod yn cael ei dderbyn yn well gan y grŵp drwy gynnig “sioe” sy’n hwyl i’r plant eraill. Mae’r dioddefwr yn dioddef bwlio ac yn nes ymlaen yn ei fywyd gall achosi canlyniadau gweladwy iddo megis iselder a methu ag ymddiried yn eraill. Mae bwlio’n risg i’r bwli hefyd. Os nad oes neb yn ymyrryd yn ymddygiad y bwli yn ddigon buan, yna mae ei les a’i ddatblygiad ef/hi mewn perygl difrifol.

 

Er bod yna rai pethau cyffredin