Map o'r safle

Canllaw i rieni
Gwybodaeth i rieni
Beth yw Rhaglen Gwrth-fwlio KiVa Canllaw cryno i rieni
Gwybodaeth sylfaenol am fwlio
Beth yw bwlio? Mathau o fwlio Mae bwlio’n fater i’r dosbarth cyfan Beth sy’n achosi bwlio? Sut ydw i’n adnabod plentyn sy’n cael ei fwlio?
Camau gwrth-fwlio yn yr ysgol a’r cartref
Camau yn yr ysgol
Camau yn y cartref
Cyfeiriadau llenydduaeth ac ar y we
Cyfeiriadau ar y we Llenyddiaeth Gwybodaeth a Ffuglen

Camau yn yr ysgol

Camau yn yr ysgol

Rhaglen KiVa

Mae KiVa’n seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil ac fe’i datblygwyd fel offeryn gwrth-fwlio i addysgwyr.

Rhaglen KiVa

Camau yn yr ysgol

Mae KiVa’n rhoi gwybodaeth i staff ysgol am fwlio a sut i fynd i’r afael ag ef, ac yn ceisio cael ymrwymiad yr holl oedolion yn yr ysgol i gymryd rhan mewn gwaith gwrth-fwlio. Mae’r rhaglen yn cynnwys deunyddiau ar gyfer cyfarfodydd ysgol a nosweithiau rhieni. Rhoddir festiau i’r monitoriaid amser egwyl a wnaed allan o ddefnydd llachar fel eu bod yn hawdd eu gweld ac yn atgoffa’r disgyblion a’r monitoriaid mai gwaith pwysig y monitoriaid yw bod yn gyfrifol am ddiogelwch pawb.

Camau yn y dosbarth

Camau yn y dosbarth

Mae rhaglen KiVa’n cynnwys 10 gwers (2 x sesiwn 45 munud) a thasgau i’w cynnal dros un flwyddyn ysgol. Caiff y plant yn y blynyddoedd a dargedwyd wersi KiVa unwaith neu ddwywaith y mis. Mae’r gwersi’n cynnwys trafodaethau am fwlio a pharchu pobl eraill, sut mae gweithredu mewn grŵp, a gwahanol fathau o ymarferion a gwaith grŵp. I gyd-fynd â’r gwersi a’r themâu, mae gêm gyfrifiadurol KiVa. Yn y gêm mae’r plant yn mynd i rith ysgol i ymarfer camau gwrth-fwlio ac yn cael adborth ar yr hyn a wnaethant. Gall plant sydd â’r rhyngrwyd gartref chwarae’r gêm gartref hefyd. Gofynnwch i’ch plentyn ddangos gêm KiVa i chi! Nod y gwaith a wneir ar lefel yr ystafell ddosbarth yw addysgu’r disgyblion am eu rhan nhw mewn atal bwlio. Felly yn hytrach na chymeradwyo bwlio yn ddistaw neu annog y bwlis, mae’r plant yn dechrau’r cefnogi’r sawl a gafodd ei fwlio, ac wrth wneud hynny maent yn cyfleu’r neges nad ydynt o blaid bwlio. Mae modd dod â bwlio i ben pan fo ymdeimlad cyffredin o gyfrifoldeb yn cael ei ddatblygu ac arferion y grŵp yn cael eu newid.

 

Camau mewn achosion unigol o fwlio

Nid yw rhaglen KiVa yn canolbwyntio ar atal bwlio mewn ffordd gyffredinol, mae hefyd yn mynd i’r afael ag achosion unigol o fwlio mor effeithiol ag y bo modd. Mae gan bob ysgol sy’n gweithredu’r rhaglen dasglu – tîm KiVa – sy’n cynnwys o leiaf dri athro ac oedolion eraill. Yn eu hyfforddiant mae aelodau’r tîm yn ymgyfarwyddo â ffyrdd o fynd i’r afael ag achosion unigol o fwlio. Y nhw fydd yr arbenigwyr mewn materion sy’n gysylltiedig â bwlio yn eu hysgol.

Pan fo rhiant yn cysylltu â’r ysgol ynglŷn â phryderon am fwlio neu pan fo plentyn yn dweud wrth yr athro am fwlio, y cam cyntaf i’r athro yw penderfynu a yw’n delio â bwlio systematig, dim byd mwy na gwrthdaro anfwriadol, dadl rhwng plant, neu gamddealltwriaeth sydd wedi achosi trallod. Caiff pob un o’r achosion sy’n bodloni meini prawf bwlio eu rhannu â’r tîm KiVa a bydd yr aelodau’n gallu ystyried yr achos a’i drafod gyda’r plant dan sylw. I ddechrau mae aelodau’r tîm yn siarad â’r dioddefwr, ac yna’n unigol â phob disgybl a gymerodd ran yn y bwlio. Wedi hynny, mae’r plant a fu’n rhan o’r bwlio yn cyfarfod gyda’i gilydd fel grŵp. Unwaith y cafwyd cytundeb am sut bydd y bwlis yn newid eu hymddygiad, trefnir cyfarfod – trafodaeth ddilynol. Pwrpas y trafodaethau dilynol hyn yw gwneud yn siŵr fod y bwlio wedi stopio mewn gwirionedd.

Caiff rhieni wybod am bob achos ynglŷn â’u plentyn sy’n cael eu trafod gan y tîm KiVa. Os oes angen, mae’n bosibl y gofynnir i’r rhieni dod i’r ysgol i drafod y mater. Fodd bynnag, mae’r trafodaethau am y bwlio yn cael eu cynnal yn bennaf rhwng yr oedolion yn yr ysgol a’r disgyblion.

 

Ar lefel yr ysgol pwrpas rhaglen KiVa

Ar lefel yr ysgol pwrpas rhaglen KiVa 

yw cynnig gwybodaeth sylfaenol i staff yr ysgol am fwlio a ffyrdd o’i daclo, a chael y staff i ymrwymo i waith gwrth-fwlio. Bydd monitoriaid amser egwyl yn cael festiau llachar gyda logo KiVa arnynt i atgoffa pawb am y rhaglen. Ar lefel y dosbarth y pwrpas yw effeithio ar y disgyblion fel eu bod yn cefnogi’r dioddefwr yn hytrach na derbyn y peth yn ddistaw neu annog y bwlis. Wrth wneud hynny byddant yn dangos nad ydynt o blaid bwlio. Ar lefel y disgybl mae’r sylw ar fynd i’r afael ag achosion difrifol o fwlio mor effeithiol â phosibl. Bob tro y caiff achos ei daclo, bydd trafodaeth ddilynol yn cael ei chynnal er mwyn sicrhau fod y sefyllfa wedi newid.