Mae bwlio geiriol yn cynnwys galw enwau, tynnu coes neu wawdio, negeseuon bygythiol a gwneud hwyl am ben rhywun. Nid yw’r sarhad geiriol hyn yn gadael marc corfforol, ond mae ei natur niweidiol yn cael effaith negyddol ar hunan-barch a hunansyniad y dioddefwr, ac yn gwneud drwg i’w ffordd ef/hi o weld ei hun ac eraill. Yn ôl ymchwil, gall hunan-barch y dioddefwr barhau’n isel lawer o flynyddoedd wedyn a gall ei ymddiriedaeth mewn eraill gael ei golli am byth.
![]() |
Mae bwlio anuniongyrchol yn defnyddio dulliau cudd i beri niwedMae bwlio anuniongyrchol yn golygu nad yw’r bwli a’r dioddefwr o reidrwydd yn cwrdd wyneb yn wyneb; nid ydynt bob amser yn yr un man pan fo’r bwlio’n digwydd. Wrth natur mae bwlio anuniongyrchol yn aml yn golygu dylanwadu cymdeithasol, h.y. mae’r bwli’n ceisio dylanwadu ar blant eraill fel eu bod nhw’n dechrau osgoi’r dioddefwr ac edrych arno ef/arni hi mewn golau negyddol. Gall dylanwadu amlygu ei hun ar ffurf lledaenu straeon di-sail am y dioddefwr a all arwain at niweidio perthynas hwnnw/honno â’r disgyblion eraill. Gall y sawl sy’n dioddef bwlio anuniongyrchol sylwi’n raddol ei fod ar ei ben ei hun yn y dosbarth a heb ffrindiau. Yn y sefyllfa waethaf un mae’r dosbarth cyfan yn troi ei gefn ar y dioddefwr. |
Gall bwlio corfforol arwain at fynd o flaen eich gwellMae gwthio, taro a chicio yn fathau o fwlio corfforol. Yn anaml y mae ffurfiau eithafol bwlio corfforol, fel trais a chamdriniaeth ofnadwy yn digwydd, er eu bod yn cael sylw’n aml yn y cyfryngau. Dylid ystyried mynd i’r gyfraith mewn achosion sy’n cynnwys trais corfforol. |
![]() |
![]() |
Mae seiberfwlio yn ffurf newydd o fwlioMae bwlio ar-lein neu drwy ffôn sy mudol yn ffurfiau gweddol newydd o fwlio. Mae’r math yma o fwlio yn dechnegol hawdd; y cyfan sydd ei angen yw clicio’r llygoden neu bwyso botwm neu ddau. Gall y risg isel o gael eich dal demtio rhywun i wneud rhywbeth na fyddent yn ei wneud fel arfer. Weithiau mae seiberfwlio yn ddienw. Gyda ffôn symudol neu gyfrifiadur mae modd taenu straeon, postio lluniau sy’n codi cywilydd neu wybodaeth bersonol, neu anfon negeseuon gwawdlyd neu fygythiol. Mae bwlio ysgol yn aml wedi’i gyfyngu i’r diwrnod ysgol, ond ar-lein gall y bwli gyrraedd ei ddioddefwr pryd bynnag y dymuna. Hyd yn oed gartref, nid yw’r dioddefwr yn ddiogel mwyach rhag cael ei fwlio. |
![]() |
Gall bwlio fod yn weladwy neu yn gudd ei natur.Y ffurfiau gweledol yw camdriniaeth gorfforol ac emosiynol. Bwlio geiriol yw’r math mwyaf cyffredin o fwlio. Mae geiriau’n brifo hunan-barch a hunansyniad y dioddefwr, ac o ganlyniad yn niweidio’i ffordd ef/hi o weld ei hun ac eraill. Mae’n niweidio perthnasau cymdeithasol y dioddefwr ac ar ei waethaf mae’n gadael y dioddefwr ar ei ben ei hun yn llwyr heb unrhyw ffrindiau yn y dosbarth. Mae’r mathau o fwlio a ddisgrifiwyd uchod wedi’u cyfyngu i’r ysgol, ac eithrio seiberfwlio sy’n cyrraedd y dioddefwr pryd bynnag a lle bynnag. |