Mae’r Canllaw hwn i Rieni yn rhan o raglen gwrth-fwlio KiVa, offeryn sy’n ffrwyth ymchwil, ar gyfer atal a lleihau problemau bwlio. Rhaglen i ysgolion yw KiVa a ddatblygwyd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Turku, Y Ffindir. Ceir gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen ar wefan KiVa, www.kivaprogram.net.
Mae deddfau a rheoliadau’n mynnu fod ysgolion yn cymryd camau i atal bwlio a sefydlwyd polisïau ysgol i amddiffyn disgyblion. Mae craidd y deddfau a’r rheoliadau hyn yn mynnu fod ysgolion yn ymyrryd mewn achosion o fwlio ac yn datblygu polisïau gwrth-fwlio. Mae KiVa yn offeryn i helpu ysgolion i gydymffurfio â’r gofynion gwrth-fwlio cyfreithiol.
Nod y canllaw hwn yw cynnig gwybodaeth i rieni am fwlio; yr hyn a wyddwn o’r ymchwil gyfredol a beth y gellir ei wneud gartref ac yn yr ysgol. Mae cydweithrediad rhwng yr ysgol a’r cartref yn bwysig er mwyn mynd i’r afael â bwlio. Fel y dywed KiVa – gwnawn hyn gyda’n gilydd!
Crynhoir y prif bwyntiau ar ddiwedd pob pennod.
Wrth ysgrifennu’r canllaw hwn buom yn gwrando ar rieni, disgyblion ac arbenigwyr eraill. Hoffem ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd at y canllaw.
I lwyddo, mae KiVa yn gofyn am amgylchedd cartref cefnogol lle mae’r rheini’n cyfleu nad ydynt o blaid bwlio a’u bod yn fodlon helpu eu plentyn os yw ef neu hi yn dioddef unrhyw fwlio!
Ari Kaukiainen ja Christina Salmivalli