Nid yw bwlio’n digwydd mewn gwagle cymdeithasol. Fel arfer mae sawl disgybl yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ac mae yna sawl tyst i weithredoedd y bwli. Yn anffodus mae nifer ohonynt yn cydweithredu â’r bwli neu’n chwerthin ar yr hyn mae’r bwli’n ei wneud, ac felly’n rhoi’r syniad eu bod yn cymeradwyo’r bwlio. Yn ffodus ceir rhai pobl nad ydynt yn cymryd ochr y bwli. Serch hynny, nid yw’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymyrryd mewn sefyllfaoedd o fwlio, ond yn aros ar y tu allan, ac wrth wneud hynny maent yn cymeradwyo’r bwlio yn ddistaw. Mae astudiaethau wedi dangos y gwahanol ffyrdd y mae’r gwylwyr (y rhai nad ydynt yn fwlis na dioddefwyr) yn adweithio wrth fod yn dystion i fwlio. |
![]() |
|
|
Mae’r dyfyniad uchod gan Martin Luther King yn disgrifio’n effeithiol profiad nifer o blant a gafodd eu bwlio sy’n gwneud iddynt gredu nad oes neb yn poeni neu neb ar eu hochr nhw. Gall y sefyllfa hon barhau am flynyddoedd. Pam nad yw pobl yn ochri â’r dioddefwr? Gall fod nifer o resymau y tu ôl i’w diffyg gweithredu. Un rheswm yw diffyg dewrder; ofn cael eu bwlio eu hunain. Mae diffyg gwybodaeth yn ffactor arall a all atal unigolyn rhag cynnig cefnogaeth; nid ydynt yn gwybod beth i wneud i helpu’r dioddefwr. Nod rhaglen KiVa yw helpu plant i sylweddoli sut gall hyd yn oed mân bethau gyfleu’r canlynol; “Dwi ar dy ochr di”, “Dwi eisiau dy helpu di” neu “Dwi’n meddwl dy fod yn cael dy drin yn wael”. Pan fo’r bwlio’n parhau, bydd llawer o’r disgyblion yn raddol ddechrau edrych ar y dioddefwr mewn goleuni mwy a mwy negyddol. Mewn grŵp gall ddod yn arferiad trin y plentyn sy’n cael ei fwlio yn wael. Mewn achosion o’r fath mae arferion y grŵp yn ei gwneud hi’n amhosibl amddiffyn y dioddefwr neu hyd yn oed fod mewn cysylltiad ag ef/hi. Gall disgyblion feddwl hefyd fod bwli’n dderbyniol os nad yw’n cael ei daclo a’i fod yn cael parhau. Gall disgyblion deimlo embaras ynghylch yr hyn sy’n cael ei wneud i’r dioddefwr. Gall teimladau o gywilydd ac embaras gynyddu amharodrwydd disgyblion eraill i ymyrryd mewn bwlio. Yn raddol mae’r diffyg ymyriad hwn yn troi yn ddifaterwch a gall sefyllfa’r dioddefwr fynd yn angof. Pan fo rhywun yn anghofio, gallant deimlo’n well. Unwaith mae bwlio wedi mynd o’r meddwl mae’n mynd yn rhywbeth dibwys a gall rhywun stopio rhoi sylw iddo. Ar y pwynt hwn, mae bwlio wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd mewn dosbarth ac yn yr ysgol, ac nid oes gan ddisgybl unigol mo’r rheswm, na’r offer na’r dewrder i ymyrryd. Amcan rhaglen KiVa yw dylanwadu ar y dosbarth cyfan. Mae’r rhaglen yn helpu i adeiladu awyrgylch cyffredin o ymwybyddiaeth, ymyriad a chyfrifoldeb. Y nod yw addysgu’r disgyblion fel eu bod, yn hytrach na chymeradwyo’r bwlis yn dawel neu eu hannog, yn dechrau cefnogi’r dioddefwr, gan ddangos drwy hynny nad ydynt yn goddef bwlio. Daw stopio bwlio yn bosibl pan fo ymdeimlad o gyfrifoldeb cyffredin yn datblygu ac arferion y grŵp yn newid. Nod y rhaglen hon yw cyflawni’r ddau beth yna. Nod arall yw rhoi offerynnau pendant i’r plant i ymyrryd mewn sefyllfaoedd bwlio yn ogystal â chreu amgylchedd diogel lle nad oes unrhyw un sy’n amddiffyn y dioddefwr ofn cael ei fwlio ei hun. |