Map o'r safle

Canllaw i rieni
Gwybodaeth i rieni
Beth yw Rhaglen Gwrth-fwlio KiVa Canllaw cryno i rieni
Gwybodaeth sylfaenol am fwlio
Beth yw bwlio? Mathau o fwlio Mae bwlio’n fater i’r dosbarth cyfan Beth sy’n achosi bwlio? Sut ydw i’n adnabod plentyn sy’n cael ei fwlio?
Camau gwrth-fwlio yn yr ysgol a’r cartref
Camau yn yr ysgol Camau yn y cartref
Cyfeiriadau llenydduaeth ac ar y we
Cyfeiriadau ar y we Llenyddiaeth Gwybodaeth a Ffuglen

Canllaw cryno i rieni

Canllaw cryno i rieni

Mae Ysgol KiVa yn ysgol gwrth-fwlio

Mae’r canllaw i rieni yn rhan o raglen KiVa; offeryn gwrth-fwlio a ddatblygwyd i rieni a gwarcheidwaid. Pwrpas y canllaw hwn yw cynnig gwybodaeth am fwlio yn yr ysgol; yr hyn a wyddwn amdano a beth ellir ei wneud amdano yn y cartref ac yn yr ysgol.

Beth yw bwlio?

Mae bwlio’n digwydd pan fo’r un disgybl yn cael ei niweidio’n gyson ac yn fwriadol. Mae’r bwli yn rhywun/rhywrai y mae’r dioddefwr yn ei chael yn anodd ei amddiffyn ei hun yn eu herbyn. Nid chwarae diniwed yw bwlio, nid yw’n magu cymeriad, ac nid ydych yn dod drosto drwy dalu’r pwyth. Mae bwlio bob amser yn torri hawliau person ac yn diraddio’i werth fel person a’i urddas.

Mathau o fwlio

Gall bwlio fod yn weladwy neu yn gudd. Y mathau gweladwy yw camdriniaeth gorfforol a meddyliol. Mae bwlio anuniongyrchol yn llai amlwg. Mae’n niweidio perthnasau cymdeithasol y dioddefwr. Mae’r mathau o fwlio y cyfeiriwyd atynt uchod wedi’u cyfyngu i’r ysgol ond mae seiberfwlio yn cyrraedd ei ddioddefwr ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le.

Mae bwlio’n fater i’r dosbarth cyfan

Yn anaml y mae plentyn sy’n bwlio yn gweithredu ar ei ben ei hun. Fel arfer mae ganddo gynorthwywyr a chefnogwyr. Mae’n bosibl fod gan y dioddefwr ei amddiffynwyr, ond mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion mewn sefyllfaoedd bwlio yn sefyll o’r neilltu ac yn dod yn gymeradwywyr distaw. Yn raddol gall bwlio ddod yn rhan o fywyd bob dydd yr ysgol.

Beth sy’n achosi bwlio?

Yn aml mae ar blant sy’n bwlio eraill angen cael eu gweld a’u clywed, ennyn edmygedd ac ennill pŵer yn y grŵp. Y targed a ddewisir yn aml yw plentyn neu berson ifanc sy’n ansicr, swil, sydd â statws isel o fewn y grŵp ac sydd â nemor ddim ffrindiau. Nid ydych yn dod yn fwli neu’n ddioddefwr ar sail nodweddion unigol yn unig; caiff y rolau hyn eu dylanwadu gan ddisgwyliadau plant eraill ac arferion y dosbarth.

Sut ydw i’n adnabod plentyn sy’n cael ei fwlio? 

Nid yw’r arwyddion unigol ar eu pennau eu hunain yn golygu fod eich plentyn yn cael ei fwlio. Mae pob rhiant yn adnabod ei blentyn a’r ffordd y mae’n mynegi trallod. Un peth pwysig i chwilio amdano yw newid yn ymddygiad y plentyn o’i gymharu â’r hyn oedd, er enghraifft plentyn a arferai hoffi’r ysgol ddim eisiau mynd yno mwyach.

Camau gwrth-fwlio yn ysgol a’r cartref

Ar lefel yr ysgol nod rhaglen KiVa yw cynnig gwybodaeth sylfaenol am fwlio a sut mae ei daclo. Ar lefel y dosbarth y pwrpas yw addysgu’r disgyblion fel eu bod yn dechrau cefnogi’r dioddefwr yn hytrach na chymeradwyo neu annog y bwli’n ddistaw. Wrth wneud hynny byddant yn cyfleu’r neges nad ydynt o blaid bwlio. Ar lefel y disgybl y camau allweddol yw trafodaethau i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Mae’r trafodaethau bob amser yn cynnwys sesiynau dilynol er mwyn sicrhau fod y bwlio wedi stopio mewn gwirionedd.

Camau yn y cartref

Pwrpas mynd i’r afael â’r sefyllfa yw cefnogi’r dioddefwr, codi ei hunan-hyder, a’i sicrhau y bydd y bwlio’n cael ei stopio. Mae’n werth cysylltu â’r tîm KiVa yn eich ysgol i drafod beth sydd wedi digwydd. Cafodd aelodau’r tîm eu hyfforddi mewn dulliau o ddelio ag achosion unigol o fwlio.

Mae fy mhlentyn i’n cymryd rhan mewn bwlio – beth ddylwn i wneud? 

Byddwch yn dawel a phendant wrth drafod bwlio gyda’ch plentyn. Gwnewch hi’n amlwg nad ydych o blaid bwlio. Dywedwch wrth eich plentyn eich bod am ei gefnogi i roi stop ar fwlio. Gyda’ch gilydd meddyliwch am y dulliau gwahanol y gall eich plentyn eu defnyddio i reoli dicter a delio â siom. Gallech hefyd ystyried beth gall eich plentyn ei wneud i gefnogi’r dioddefwr; er enghraifft, gallai ddweud helo a gwenu arno. O leiaf, gall gytuno i beidio â chymryd rhan mewn bwlio mewn unrhyw ddull na modd.