Map o'r safle

Canllaw i rieni
Gwybodaeth i rieni
Beth yw Rhaglen Gwrth-fwlio KiVa Canllaw cryno i rieni
Gwybodaeth sylfaenol am fwlio
Beth yw bwlio?
Mathau o fwlio Mae bwlio’n fater i’r dosbarth cyfan Beth sy’n achosi bwlio? Sut ydw i’n adnabod plentyn sy’n cael ei fwlio?
Camau gwrth-fwlio yn yr ysgol a’r cartref
Camau yn yr ysgol Camau yn y cartref
Cyfeiriadau llenydduaeth ac ar y we
Cyfeiriadau ar y we Llenyddiaeth Gwybodaeth a Ffuglen

Beth yw bwlio?

Beth yw bwlio?

Nid yw dadlau ac anghytuno yn fwlio

Mae gwrthdaro a dadlau yn rhan o unrhyw berthynas a gallant ddigwydd pan fo gan bobl farn wahanol neu pan fod eisiau pethau gwahanol arnynt. Wrth i ni ymdrechu i ymgyrraedd at ei nodau ein hunain, nid ydym bob amser yn cofio ystyried teimladau pobl eraill. Nid yw dosbarth o blant yn ddim gwahanol. Nid yw plant a phobl ifanc yn gorfod datrys anghydfod a gwahaniaeth barn yn beth drwg fel y cyfryw. Er y gall yr anghytuno hyn ein hypsetio weithiau, gallant hefyd ddysgu dulliau gwerthfawr i ni o drin emosiynau a setlo gwrthdaro. Mae dadlau ac anghytuno yn wahanol i fwlio yn yr ystyr eu bod fel rheol yn bethau byrhoedlog, dros dro, ac nid yr un plentyn sy’n cael ei dargedu’n gyson.  

 

Nid yw tynnu coes neu chwarae corfforol yn fwlio

Nid y bwriad y tu ôl i chwarae gêm yw anafu neu sarhau eraill. Mae’n bwysig fod pawb sy’n cymryd rhan yn sylweddoli hyn ac yn derbyn y gweithgaredd fel gêm. Fodd bynnag, weithiau gall geiriau a gweithredoedd a olygwyd fel jôc neu dynnu coes anafu a brifo rhywun, ac mewn achosion o’r fath, mae mynd i’r afael â’r mater ac ymddiheuro yn bwysig. Yn y dyfodol dylai’r ddwy ochr osgoi ymddygiad y gwyddant fydd yn brifo’r llall. Yn wahanol i fwlio, mae awyrgylch o ddeall a pharch rhwng y naill a’r llall mewn gweithgareddau chwarae gêm.

Fe glywch chi’n aml “Dim ond chwarae ŷn ni, dŷn ni ddim o ddifri”. Sut ddylech chi ddelio â hyn? I ddechrau, dylech ganfod a yw pawb sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yn teimlo mai dim ond chwarae y maen nhw. Os na allwch fod yn siŵr, dylech drafod hyn gyda’r plant. Mewn sefyllfaoedd aneglur gallwch drafod y gwahaniaeth rhwng chwarae a bwlio a phwysleisio y dylai chwarae fod yn hwyl i bawb.

 

Bwlio yw pan fyddwch yn gyson yn niweidio rhywun sy’n ddiamddiffyn

Bwlio yw pan fo’r un disgybl yn cael ei niweidio yn gyson ac yn fwriadol. Mae’r sawl sy’n gwneud y bwlio yn rhywun/rhywrai y mae’r dioddefwr yn ei chael yn anodd ei amddiffyn ei hun yn ei erbyn.

Mae “yn gyson” yn golygu’r un disgybl yn dioddef gweithredoedd cas a niweidiol gan eraill dro ar ôl tro. Gall y bwlio barhau dros sawl cyfnod o’r ysgol gynradd i’r uwchradd. Mae “yn fwriadol” yn golygu mai pwrpas neu nod y gweithredoedd yw brifo, niweidio ac achosi trallod. Weithiau gallwch frifo rhywun yn ddamweiniol. Mewn achosion o’r fath dylid datrys y sefyllfa, er nad yw yn fwlio fel y cyfryw. Mae dweud fod y dioddefwr yn ei chael yn anodd amddiffyn ei hun yn golygu fod yna anghydbwysedd mewn nerth neu gryfder neu bŵer rhwng y bwli a’r dioddefwr. Gall y dioddefwr fod yn gorfforol wan, yn swil iawn neu gall ef neu hi fod yn newydd yn y dosbarth a heb fod wedi gallu gwneud cylch o ffrindiau eto a fydd yn darian iddo rhag bwlio.

Dengys ymchwil fod 10-20% o ddisgyblion ysgol gynradd a 5-10% o ddisgyblion ysgol uwchradd yn cael eu bwlio’n systematig. Nid yw llawer o’r disgyblion hyn yn dweud wrth unrhyw un am y bwlio. Yn aml yr achos am y tawelwch hwn yw’r ofn y gallai’r bwlio gynyddu neu gallai fod yn ganlyniad profiadau blaenorol lle na fu i ddweud wrth rywun dalu’r ffordd. Mae cyfaddef nad yw’ch ffrindiau yn eich derbyn yn anodd i unrhyw un.

 

Geiriau da, ond...

Yn ogystal ag effeithio ar y bwli, mae bwlio’n effeithio hefyd ar deulu, ffrindiau a chydnabod y dioddefwr. Wedi i’r mater ddod i’r golwg, byddwn yn sefyll yn gryf ac yn ymdrechu i wneud i’r dioddefwr deimlo’n well. Gwych! Ond, weithiau gall ein sylwadau wneud y sefyllfa’n waeth a chreu hyd yn oed mwy o broblemau. Gall geiriau a gynigir yn ddidaro achosi teimladau o gywilydd ac euogrwydd. Isod mae rhai sylwadau a glywch chi pan fo bwlio’n codi ei ben.

“Ges i fy mwlio yn yr ysgol hefyd, ond wnaeth hynny ddim effeithio arna’i mewn unrhyw ffordd.”

Yn aml mae’r geiriau hyn yn cael eu dweud mewn ffordd eithaf blin fel pe bai’r sawl sy’n eu hyngan yn dal yn flin gan y digwyddiadau. Os na chafodd y bwlio effaith mewn gwirionedd, yna rhaid gofyn ai bwlio ydoedd neu, er enghraifft, gweryl rhwng dau berson neu dorri dadl. I blentyn sy’n cael ei fwlio gall sylw o’r fath ymddangos fel pe baech yn bychanu eu problem.  

“Mae’n rhaid i ti ddysgu sefyll i fyny drosot dy hun.”

Mae rhinwedd mewn amddiffyn eich hun, a gallwch ddysgu ac ymarfer ei wneud, ond cwestiwn arall yw a ydyw’n rhywbeth y dylech ei ddysgu mewn sefyllfa fwlio. Ystyr bwlio yw niweidio rhywun sy’n ddiamddiffyn neu mewn sefyllfa wannach. Mae eich amddiffyn eich hun mewn sefyllfa o’r fath yn hynod o anodd, weithiau yn amhosibl hyd yn oed. Pan ddywedir wrth y dioddefwr i’w amddiffyn ei hun, mae’r cyfrifoldeb dros ymdrin â’r sefyllfa yn cael ei roi ar ei ysgwyddau ef neu ei hysgwyddau hi yn llwyr. Nid yw gofyn am help yn golygu nad ydych yn gallu’ch amddiffyn eich hun. Yn hytrach mae’n arwydd o ddewrder a hunanymwybyddiaeth mewn sefyllfa lle nad yw’ch adnoddau chi i ymdopi yn ddigonol.

“Mae bwlio’n magu cymeriad a’r gallu i ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd.”

Dengys ymchwil fod effeithiau bwlio yn y tymor byr a hir yn lleihau gallu dioddefwyr i ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd. Mae bwlio’n andwyo hunan-barch y dioddefwr a’i allu i ymddiried yn eraill. Felly, nid yw bwlio’n gwella gallu rhywun i reoli sefyllfaoedd, ac ni ddylai neb gael “gwersi magu cymeriad” ar ffurf bwlio. Y ffordd orau i fagu a datblygu personoliaeth a chymeriad yw drwy ryngweithio rhwng dwy ochr yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch y naill i’r llall.

“Gall carreg neu ffon roi briw i’m bron, ond anair ni’m niweidia.”

Yn raddol bydd geiriau unigol, a ynganwyd mewn dadl er enghraifft, yn pylu o’r cof, ond bydd bwlio geiriol sy’n digwydd drosodd a throsodd ac sy’n systematig ei natur yn gadael craith bob amser. Bydd nerth dinistriol y geiriau yn taro hunan-barch a hunansyniad y dioddefwr dro ar ôl tro, ac felly’n peryglu ei les yn awr ac yn y dyfodol.

“Nid bwlio yw hynna. Dim ond plant yn chware a thynnu coes, `ddylai chware ddim dy boeni di.”

Mae bwlio yn ffordd greulon o anafu rhywun ar lafar, yn gorfforol neu’n anuniongyrchol. Mae bwlio ymhell o fod yn chwarae. Pwrpas chwarae go iawn a thynnu coes diniwed yw cael hwyl gyda’ch gilydd, nid anafu neu niweidio rhywun.

Mae helpu a chynnal y dioddefwr yn hollbwysig! Mae pobl sy’n gwneud datganiadau fel y rhai uchod fel pe na baent yn deall natur sylfaenol bwlio a’r effaith niweidiol a gaiff ar y dioddefwr. Mae cael eich bwlio yn brofiad eithriadol o anodd am ddau reswm. I ddechrau, nid yw bwlio yn ddigwyddiad unwaith ac am byth neu achlysurol, ond yn sefyllfa sy’n cael ei hailadrodd a all barhau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn ail, nid yw bwlio’n digwydd y tu allan i fywyd cymdeithasol y dosbarth. I’r dioddefwr mae’n aml yn golygu colli urddas o fewn eu dosbarth ac yn eu cylch ffrindiau.

Mae bwlio’n wahanol

i ddadlau a chwarae oherwydd bod bwlio

  1. yn fwriadol,
  2. yn cael ei ailadrodd, ac
  3. o’i gymharu â’r bwli, mae’r dioddefwr rywsut yn ddiamddiffyn neu mewn sefyllfa wannach.

Gall sylwadau a wneir gan eraill wneud i’r dioddefwr deimlo’n waeth, yn enwedig os yw’r sylwadau’n ansensitif ac yn ennyn teimladau o euogrwydd a gwarth. Nid chwarae diniwed yw bwlio, nid yw rhywun yn dod drosto drwy dalu’r pwyth, ac nid yw’n magu cymeriad. Mae bwlio bob amser yn ymyriad â hawliau rhywun ac yn diraddio ei werth dynol a’i urddas. Mae dioddef bwlio yn peryglu lles y dioddefwr a’i ddatblygiad yn y dyfodol.

Mae bwlio’n wahanol